Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 6 Mawrth 2024
Amser:
09.30 -
10.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13726
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Janet Finch-Saunders AS Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS (Cadeirydd dros dro) Jenny Rathbone AS |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Lukas Evans Santos (Dirprwy Glerc) Andrew Minnis (Ymchwilydd) |
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS a Llyr Gruffydd AS, ac yn unol â rheol sefydlog 17.22, etholwyd Delyth Jewell AS yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno.
3.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni.